Ynglŷn â CASW
Mae Cymdeithas Celfyddyd Gyfoes Cymru (CASW), a sefydlwyd yn 1937, yn cefnogi celf ac artistiaid yng Nghymru a’r nod yw gwneud celfyddyd gyfoes mor hygyrch â phosibl i bawb.
Un o’r prif ffyrdd rydym wedi darparu cymorth yw drwy gaffael gweithiau artistiaid a’u cyflwyno’n rhoddion i orielau a sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru. Erbyn hyn mae gennym dros 950 o weithiau celf yn ein casgliad a ddosbarthwyd, a gallwch eu gweld mewn orielau ledled Cymru yn ogystal ag yn yr adran artworks ar ein gwefan.
Mae ein cefnogaeth i’r celfyddydau gweledol yn cwmpasu amrywiaeth o weithgareddau eraill:
• rydym yn cyflwyno gwobrau blynyddol, fel y Wobr flynyddol i fyfyrwyr ôl-raddedig sy’n astudio celf yng Nghymru a Gwobr Eisteddfod Genedlaethol CASW ers 2014
• rydym yn trefnu arddangosfeydd a chyhoeddiadau achlysurol o weithiau rydym wedi’u dosbarthu i orielau, fel yr arddangosfa a’r cyhoeddiad cysylltiedig i nodi 80 mlynedd ers sefydlu CASW
• rydym yn darparu cefnogaeth i amrywiaeth o ddigwyddiadau celfyddyd gyfoes fel gwobr bob dwy flynedd Artes Mundi a chyfranogiad Cymru yn Biennale Fenis (sy’n cynnwys galluogi pobl ifanc i ennill profiad fel curaduron)
• rydym yn cefnogi prosiectau addysgol i ehangu mynediad at gelfyddyd gyfoes yng Nghymru
• rydym yn trefnu sgyrsiau ynghyd â theithiau astudio yn y DU ac yn rhyngwladol i aelodau, fel y sgyrsiau misol a roddir gan artistiaid ac arbenigwyr celf yn ogystal ag ymweliadau ag orielau ac arddangosfeydd yng Nghymru, ledled y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol
• rydym yn darparu cyhoeddusrwydd i aelodau o CASW sy’n artistiaid drwy hyrwyddo eu harddangosfeydd i aelodau.
Title
Artist
Location
Size

